COFNODION: Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yn ein Gofal

21 Chwefror 2024, 10:30am-11:30am, Ystafell Fideogynadledda Tŷ Hywel (Hybrid)

Noddir gan Jane Hutt AS

Yn bresennol ac ymddiheuriadau:

Yn bresennol

Lleoliad:  Ystafell Fideogynadledda, Tŷ Hywel (Hybrid)

Enw

Sefydliad

Cyfeiriad e-bost

Jane Dodds AS

AS

Jane.Dodds@senedd.cymru

Helen Mary Jones

Voices from Care Cymru

helenmary.jones@vfcc.org,uk

Phoebe Jenkins

Ymchwilydd, Swyddfa Jane Dodds

Phoebe.Jenkins@Senedd.Cymru

Sioned Williams AS

AS

Sioned.Williams@Senedd.Cymru.

Julie Morgan AS

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

DSDMSS@llyw.cymru

Sarah Murphy AS

AS

Sarah.Murphy@Senedd.Cymru

Jonathan Griffiths

Grŵp Cyflawni Trawsnewid

Jonathan.Griffiths5@wales.nhs.uk

Alistair Davey

Cyfarwyddiaeth Galluogi Pobl, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Alistair.davey@llyw.cymru

Ryland Doyle

Staff Cymorth Mike Hedges AS

Ryland.doyle@senedd.cymru

Sian Thomas

Ymchwilydd yn y Senedd

Sian.Tthomas@Senedd.Cymru

Rachel Thomas

Swyddfa'r Comisiynydd Plant

Rachel.thomas@complantcymru.org.uk

 

Niamh Salkeld

Swyddfa Grŵp - Plaid Cymru

Niamh.Salkeld@Senedd.Cymru

Ann Bell

Adoption UK

Ann.bell@adoptionuk.org.uk

Sharon Lovell

NYAS

Sharon.lovelly@nyas.net

Sarah Thomas

Y Rhwydwaith Maethu

Sarah.thomas@fostering.net

Tom Davies

Cymdeithas y Plant

Tom.Davies@childrenssociety.org.uk

Brendan Roberts

Voices from Care Cymru

Brendan.roberts@vfcc.org.uk

Cecile Gwilym

Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)

Cecile.gwilym@NSPCC.org.uk

Ash Lister

Cynghorydd yng Nghaerdydd

Ash.lister@caerdydd.gov.uk

Naila Noori

Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

naila.noori@rcslt.org

Ymddiheuriadau

Lleoliad:  Ystafell Fideogynadledda, Tŷ Hywel (Hybrid)

Enw

Sefydliad

E-bost

Peredur Owen Griffiths AS

AS

Peredur.owengriffiths@senedd.wales

Elin Jones AS,

AS

Elin.jones@senedd.cymru

Delyth Jewell AS

AS

Delyth.jewell@senedd.cymru

Mark Isherwood AS

AS

Mark.isherwood@senedd.cymru

Jack Sargeant AS

AS

Jack.sargeant@senedd.cymru

Heledd Fychan AS

AS

Heledd.fychan@senedd.cymru

Sarah Durrant

Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru

Sarah.durrant@tgpcymru.org.uk

Rhodri ab Owen

Camlas

Rhodri@camlas.cymru

Samantha Baron

Cymdeithas y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW)

Rhodri@camlas.cymru

Linda Hawkins

Pennaeth ysgol rhithwir

Linda/hawkins@rctcbc.gov.uk

                                                                                                                       

1. Grŵp Cyflawni Trawsnewid a’r Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol gan y Dirprwy Weinidog Gasanaethau Cymdeithasol, Jonathan Griffiths ac Alistair Davey

Julie Morgan AS a ddechreuodd y sgwrs, gan gyflwyno Jonathan Griffiths ac Alistair Davey (y ddau ar-lein), a oedd yn falch iawn o fod yn bresennol. Amlinellodd Julie Morgan eu gwaith parhaus a’u blaenoriaethau allweddol fel:

·         dileu elw o ofal;

·         cyflawni'r Bil Gwaith Cymdeithasol cyn Toriad y Pasg;

·         lansio’r Siarter Rhianta Corfforaethol (soniwyd nad oes dim byrddau iechyd wedi ymrwymo i’r Siarter hyd yma);

·         datblygu fframwaith ymarfer cenedlaethol (mae papur ymgysylltu wedi'i ddosbarthu ar gyfer ymgynghori arno, gyda’r nod o gyrraedd y gyfres gyntaf o safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru, a’r nod o ddod i ben â’r gwaith erbyn diwedd y flwyddyn);

·         2.3 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu wedi'u teilwra (adborth helaeth gan rieni);

·         sefydlu grŵp gwarcheidwaid ar gyfer dull gweithredu seiliedig ar anghenion;

·         bwrdd goruchwylio gweinidogol sy’n cyfarfod yn rheolaidd (sy’n cynnwys saith Gweinidog, o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog).

·         uwchgynhadledd gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar 2 Mawrth – dyma ble y byddant yn adrodd yn ôl i’r bobl ifanc, er mwyn sicrhau atebolrwydd.

Tynnodd Julie Morgan sylw at y ffaith mai cyfrifoldeb y llywodraeth yw plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Trosglwyddwyd at Jonathan Griffiths i roi eglurhad ar y gwasanaethau trawsnewid.

Dechreuodd Jonathan Griffiths drwy ofyn i unrhyw un a hoffai ymgysylltu’n uniongyrchol â’r daith drawsnewidiol y dylent gysylltu ag ef i wneud hynny. Jonathan yw’r arweinydd o ran y grŵp cyflawni gwasanaethau trawsnewid ac amlinellodd gynnydd y grŵp:

-       Mae’r grŵp cyflawni wedi cyfarfod 5 gwaith, ac mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mawrth. Mae amrywiaeth eang o brosiectau ar y gweill ar gyfer y dyfodol, a dau is-grŵp: yr un cyntaf ar fetrigau data a'r ail is-grŵp ar ymyrraeth, atal a herio o ran y gyllideb. Maent yn chwilio am enghreifftiau o arfer gorau.

-       Aeth Jonathan ymlaen at y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol, a gefnogir gan Anthony Douglas a chynadleddau cymdeithasol ledled Cymru, ble mae’r cynllun wedi’i drafod yn genedlaethol. Y nod yw datblygu lleisiau yn y gymuned a throsi polisi yn ymarfer, gan ysgogi cysondeb. Bydd hyn yn cyd-fynd â gweithdrefnau presennol. Anogodd unigolion sydd am ymgysylltu i wneud hynny, ac atgoffodd bawb fod y cyfle i ymgysylltu yn cau ar 8 Mawrth.

-       Mae angen i'r Safonau Cenedlaethol adlewyrchu cyfranogiad aml-asiantaethol, ac maent ar ganol cael eu datblygu gyda thri awdurdod lleol, sef Rhondda Cynon Taf, Wrecsam a Cheredigion). Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Ymunodd Alistair Davey â’r sgwrs a dywedodd mai dyma’r trawsnewid mwyaf o ran y Gwasanaethau Plant yng Nghymru ers 40-50 mlynedd. Ailadroddodd y ffaith bod nifer fawr o blant mewn gofal (7000+), a chynnydd yn nifer y plant mewn gofal maeth, gofal carennydd neu ofal gwarcheidwad arbennig. Amlinellwyd bod popeth yn dechrau dod at ei gilydd nawr, a'r her oedd adeiladu'r ddarpariaeth. Nododd hefyd fod angen gwneud eithriadau yn ôl yr angen, a phwysigrwydd cyfnod pontio yn y broses.

Cwestiynau a thrafodaeth

Jane Dodds AS

1.     Ymarfer Ymwybyddiaeth o Dlodi – sut gallwn ni dreiddio ar draws y llywodraeth gyfan i greu synergedd o ran tlodi plant?

2.     Rhianta corfforaethol – beth pe bai sefydliadau’n dewis peidio ag ymuno? A oes unrhyw siawns y gallai gael ei roi ar sail statudol? Roedd yn pryderu nad yw Byrddau Iechyd yn ymuno.

Ymatebodd Julie Morgan AS fel a ganlyn: Rydym yn awyddus i roi’r strategaeth rhianta corfforaethol ar waith cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwneud ein gorau i recriwtio, ac mae gennym becyn cymorth, ac rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos. Nid yw'r Byrddau Iechyd wedi cael llawer o amser i ymuno. Byddwn yn mesur ac yn gweld sut mae'n mynd.

Dywedodd Alistair Davey: Rwy'n cymryd rhan mewn trafodaethau grwpiau gweithredu rhianta corfforaethol. Roedd hefyd wedi siarad â byrddau iechyd sy'n awyddus i gael eu cynnwys, ac sy’n gofyn beth y gallant ei ddarparu, e.e. cyfleoedd gwaith. Fel yn achos awdurdodau lleol, mae yna broses wleidyddol, ac mae'n cymryd amser i ymuno. Mae'n wirfoddol, ond mae pawb ohonom eisiau iddynt ymuno. Dadl fawr ynghylch atebolrwydd – sut y caiff ei fonitro? Mae angen sicrhau bod gan bobl ifanc hyder yn yr hyn yr ydym yn ei wneud ac, os nad oes, dylid ystyried ei roi ar sylfaen statudol.

Atebodd Jane Dodds AS: gan ddod â’r ffocws yn ôl ar rianta corfforaethol – beth allwn ni ei wneud fel Aelodau o’r Senedd, a beth am lythyrau at y byrddau iechyd yn ein rhanbarthau?

Ymatebodd Julie Morgan AS fel a ganlyn: Campus. Ei symud o'r sector, a gofyn i unigolion, pobl breifat, trydydd partion, ac ati?

Cytunwyd ar y cam gweithredu, fod Jane yn ysgrifennu llythyr, ac yn gweithio gyda Sioned a Sarah.

Codwyd pryderon ynghylch natur wirfoddol y siarter, a’r ffaith nad oedd y byrddau iechyd wedi ymuno ar hyn o bryd. Cadarnhaodd Julie Morgan ac Alistair Davey fod gan y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol ddiddordeb, ond fod pethau yn cymryd amser. Holodd Brendan Roberts a fyddai'n symud tuag at gael ei sefydlu ar sylfaen statudol pe na baent yn ymuno; cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai.

Gofynnodd Sioned Williams AS: a oes fframwaith gwerthuso, a sut y bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal? Cyfleu’r adborth a'r atebolrwydd i'r uwchgynhadledd.

Cadarnhaodd Julie Morgan AS eu bod yn adrodd yn ôl drwy'r uwchgynhadledd, a gofynnodd i Alistair Davey am amserlen. Cadarnhaodd Alistair y bydd adolygiad ymhen 12 mis; maent yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol ymrwymo; mae ganddyn nhw eu gwefannau eu hunain i adrodd am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Cadarnhawyd y bydd y cyfnodau adolygu yn cael eu cadarnhau yn y cyfarfod nesaf. Cadarnhaodd Jonathan Griffiths eu bod yn cyfarfod ag Awdurdodau Lleol.

Awgrymodd Sharon Lovell, o’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS), y syniad o gynnal digwyddiad i arddangos y Pecyn Cymorth.

Helen Mary Jones, Voices From Care Cymru: Mae'n rhaid bod rhyw ystyr i hyn - sut byddwn ni'n gwybod, pwy fyddwn ni'n gofyn iddynt a yw’r ymrwymiadau hyn yn cael eu cyflawni? Dylid gofyn i blant yn ystod gwerthusiad. Mae angen atebolrwydd os na fydd y rhai sydd wedi ymuno yn cyflawni’r hyn y dylent – a allai hyn fod drwy nod barcud? Mae sefydliadau'n bodloni ymrwymiadau i ddarparu bob blwyddyn, felly os nad ydynt yn gwneud hynny,dylid dileu’r nod barcud. Mae’n rhaid cael atebolrwydd ym mhob strwythur.

Julie Morgan AS: rhaid i ni fod yn atebol, rhaid i blant gael hyder, mae angen iddo fod yn ystyrlon yn hyn o beth. Cytunwyd bod syniad Sharon am ddigwyddiad yn awgrym da.

Gofynnodd Sarah Thomas, y Rhwydwaith Maethu: pa mor fawr yw’r tîm o Lywodraeth Cymru a phwy yw’r tîm sy’n darparu adnoddau ar gyfer hwn?

Alistair Davey – fi a Rachel Brown, felly cyflwynwch unrhyw sylwadau i’n sylw ni.

Dywedodd Jane Dodds pa mor gyffrous a chadarnhaol fydd y newid hwn, a'i fod yn ddatblygiad mor bwysig.

Cadarnhaodd Rachel Thomas, Swyddfa'r Comisiynydd Plant y bydd y swyddfa'n rhoi adborth ar gyfer yr ymgynghoriad. Y syniadau cychwynnol yn sgil y chwe safon gyntaf yw nad ydynt yn edrych yn hynod wahanol nac yn drawsnewidiol, a soniodd am yr anhawster o rannu gwybodaeth drwy ddull aml-asiantaethol. Soniodd Rachel hefyd na allent ddirnad, yn y Fframwaith Ymarfer, sut yr effeithir ar bobl, ac eithrio’r gwasanaethau cymdeithasol rheng flaen.

Dywedodd Sharon Lovell, NYAS: rydym yn croesawu'r Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol yn fawr, ac yn credu bod newidiadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth, yn enwedig o ran plant coll; ac roedd hi hefyd yn cael ei chalonogi gan y pethau y mae'n rhaid eu gwneud yn yr adran safonau. Byddwn yn rhoi adborth. Gofynnwyd, pwy sy'n eu monitro? Pwy sy'n eu hadolygu? Sut ydyn ni'n gwybod bod cydymffurfio â nhw, a hefyd beth sy'n digwydd os na wnân nhw?

Cecile Gwilym, NSPCC: Byddwn yn rhoi adborth. Rydym yn croesawu ymwybyddiaeth o dlodi. Roedd yn adleisio sylwadau a wnaed yn gynharach am ddulliau aml-asiantaethol. Pwy fydd yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth a sicrhau eu bod yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer? Sut mae'n cael ei gyfleu i blant fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan weithwyr proffesiynol?

Adleisiodd Brendan Roberts, Voices From Care Cymru y cwestiynau ynghylch cyfrifoldeb a chyfathrebu.

Holodd Tom Davies, Cymdeithas y Plant am wasanaeth fframwaith y comisiwn o ran cyfweliadau dychwelyd, am y safon ymarfer coll, a gofynnodd a fydd fframwaith y comisiwn yn cael ei rannu.

Gofynnodd Sarah Thomas am eiriolwyr statudol, a sut y mae hyn yn ffitio gyda phopeth.

Crynhodd Jane Dodds AS themâu'r drafodaeth ac ailadroddodd y pwyntiau ar eiriolaeth statudol.

Dywedodd Jonathan Griffiths y bydd y Fframwaith yn cael ei fonitro a’i fod yn cael ei yrru drwy’r Arolygiaeth Gofal, fel partner allweddol, ac y bydd eu dwyn i gyfrif yn allweddol. Dywedodd hefyd y bydd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn dod ar-lein, ac am y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol.

Gofynnodd Jane Dodds AS am ragor o eglurhad ar ddatblygu Swyddfa Genedlaethol.

Siaradodd Jonathan ar ran y Dirprwy Weinidog ac amlinellodd gamau datblygu’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth sydd:

-       Yn un o swyddfeydd y Llywodraeth, o dan y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol;

-       Mae’n atebol drwy Lywodraeth Cymru;

-       Bydd y swyddogaethau fel a ganlyn: fframwaith comisiynu a'r modd y caiff ei ddarparu yn y maes gofal cymdeithasol, data, arfer gorau, gweithredu cynllun 10 mlynedd ar gyfer gwasanaeth gofal a darparu.

Adleisiodd Julie Morgan AS pa mor bwysig oedd y datblygiad, a soniodd mai dyma'r cam cyntaf tuag at newid i Wasanaeth Gofal Cenedlaethol. Bydd y swyddfa yn weithredol o Ebrill 2024, ac mae Pennaeth y Swyddfa wedi’i benodi. Atgoffwyd y Grŵp ei fod yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio, a sefydlwyd panel arbenigol, ac un o’r argymhellion oedd sefydlu Swyddfa Genedlaethol.

Dywedodd Rachel Thomas nad oedd y datblygiad hwn yn gwbl hysbys i bobl.

Cafwyd trafodaeth fer rhwng Jane Dodds ac Alisatiar Davey ar eiriolaeth statudol, fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer y Grwp Trawsbleidiol.

Diolchodd Julie Morgan AS i bawb am fod yn bresennol, a gwahoddodd bawb i fod yn gynhyrchiol ar y cyd ar y pwnc.

Diolchodd Jane Dodds AS i’r Dirprwy Weinidog, i Jonathan Griffiths ac i Alistair Davey am roi o’u hamser. Nodwyd mai Cymru fydd yr ail wlad i ddileu elw o ofal.

 

Fframweithiau Iaith

Cynigodd y Cadeirydd fod y drafodaeth ar Fframweithiau Iaith, gan gynnwys y cyflwyniadau, yn cael ei symud ymlaen i gyfarfod ychwanegol cyn mis Mehefin. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i ddod o hyd i ddyddiad a'i ddosbarthu ar gyfer ei gymeradwyo gan y Grŵp.  

 

Unrhyw fater arall

Sharon Lovell, NYAS: roedd hi’n falch o weld ymchwiliad ar blant ar yr ymylon, a’r ymgynghoriad parhaus ar y gwaith hwnnw.

Sarah Thomas, y Rhwydwaith Maethu: nododd bryder ynghylch y lwfans gofalwyr maeth; mae'n bwysig bod hyn yn cael ei ystyried yn Dileu a beth fydd goblygiadau hyn. Os na chawn isafswm lwfans cenedlaethol, mae tebygolrwydd sylweddol y bydd pobl sy’n maethu yn cael mynediad at hawliau cyflogaeth. Mae achos llys yn parhau yn Lloegr ar hyn – os ydyn nhw’n ennill, bydd yn newid y dirwedd a bydd yn amhosibl i gyfarfod.

Roedd Helen Mary Jones eisiau dweud bod yr hyn y maent yn ei ddweud am wasanaeth eiriolaeth sy’n ymweld yn wahanol iawn i’r hyn a oedd yn cael ei ddweud o’r blaen gan y llywodraeth. A ydym ni fel Grwp Trawsbleidiol am ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhywfaint o eglurder ar y sefyllfa? Dylid cael nodi hynny yn y gofynion cofrestru?

Cytunodd Sharon Lovell, a dywedodd y byddai hi hefyd yn ei godi gyda'r fforwm eiriolaeth y mae hi’n aelod ohono.

Anogwyd aelodau'r Grŵp i ymateb i'r Ymgynghoriad ar Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Cymru).

Trafodwyd dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf, a chymeradwywyd hwy.

Camau i’w cymryd

1.     Llythyr drafft i’w ysgrifennu gan dîm Jane at Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd yr Aelodau yn gofyn iddynt lofnodi'r Siarter Rhianta Corfforaethol. I rannu gyda swyddfeydd Sarah Murphy a Sioned Williams a fydd yn atgynhyrchu’r llythyr.

2.     Helen Mary Jones a Phoebe Jenkins i drefnu cyfarfod arall cyn mis Mehefin ar Fframweithiau Iaith.

3.     Sarah Thomas, o'r Rhwydwaith Maethu, i ddrafftio llythyr ar yr Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer maethu. Y llythyr drafft i'w anfon at Phoebe Jenkins a fydd yn cyd-gysylltu â Jane Dodds i'w anfon at y Gweinidogion perthnasol cyn gynted â phosibl.

4.     Helen Mary i ysgrifennu nodyn drafft ar ymweliadau eiriolaeth gyda mewnbwn gan Sharon Lovells.